Mae’r mis hwn yn nodi 30 mlynedd ers ffilm a newidiodd y sinema am byth. Defnyddiodd Jurassic Park 1993 ddelweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur (CGI) arloesol i ddod â deinosoriaid yn fyw yn addasiad Steven Spielberg o'r nofel o'r un enw.
Daeth y ffilm yn ddigwyddiad yr oedd yn rhaid ei weld yn gyflym iawn a chafodd cynulleidfaoedd eu syfrdanu gan yr olygfa o weld deinosoriaid credadwy yn ymlwybro ar draws y sgrin fawr am y tro cyntaf. Nid yn unig y gwnaeth Jurassic Park gamau enfawr mewn gwneud ffilmiau effeithiau arbennig, ond fe wnaeth hefyd baratoi'r ffordd ar gyfer myrdd o gynyrchiadau dilynol a oedd yn cynnwys bwystfilod o bob lliw a llun.
Cafodd Jurassic Park ei eni yn 1983 fel sgript sgrin gan Michael Crichton. Fe oedd awdur a chyfarwyddwr y ffilm, Westworld (1973), oedd yn adrodd stori parc adloniant lle’r oedd androidau yn camweithio ac yn rhedeg yn benwyllt. Ond cyhoeddwyd ei stori ar thema deinosoriaid am y tro cyntaf fel y nofel Jurassic Park, a ryddhawyd ym 1990 ac a ddaeth yn werthwr gorau.