Yn 1983, fe ysgrifennodd y canwr, Dafydd Iwan, un o'i ganeuon fwyaf nodedig - 'Yma o Hyd', a ddaeth mewn cyfnod llawn ansicrwydd economaidd a gwleidyddol. Dyma oedd oes Thatcherism , lle bu nifer o byllau glo yn cau, miloedd o ddynion a merched yn colli gwaith a chyfnod caled i nifer.
Roedd pobl yn teimlo eu bod nhw'n "colli Cymru", eglurodd Dafydd, a ysgrifennodd y gân pedwar blynedd ar ôl refferendwm datganoli 1979 pryd cyhoeddwyd 79.9% o'r bleidlais yn erbyn y syniad o Gynulliad Cenedlaethol i Gymru. Roedd y gân felly yn symbol o obaith, yn gân am dewder a goroesi, cân a oedd yn dweud yn syml "er gwaetha pawb a phopeth, ry'n ni yma o hyd".
Yn ddiarwybod i'r canwr a'r gwleidydd yn y cyfnod hynny beth bynnag, fe ddatblygodd y gân i fod yn gymaint mwy. Heddiw, caiff y gân ei hatseinio ar hyd a lle yng Nghae Ras yn Wrecsam, ym Mharc y Scarlet draw yn Llanelli ac fel y daeth i'r amlwg dydd Iau diwethaf, mae hi hefyd yn ffefryn ymysg cefnogwyr Y Wal Goch i dîm pêl-droed Cymru.
Darllenwch mwy: Wales v Czech Republic kick-off time, TV channel, live stream info and team news
Mae Dafydd Iwan wedi siarad am y llawenydd o berfformio'r gân ar gyfer eu gêm cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Awstria wythnos ddiwethaf, a welodd y dynion mewn coch yn curo'r ymwelwyr o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd. Mae'r perfformiad wedi cael ei ddisgrifio fel ennyd cenedlaethol arwyddocaol. Yn ôl Mr Iwan, roedd e'n ymwybodol "am amser hir" fod y gân yn golygu llawer i gefnogwyr y tîm pêl-droed a'i fod yn "anrhydedd" iddo allu perfformio cyn y gêm fawr.
"Fe gysylltodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru â fi a gofyn a oeddwn ni eisiau perfformio 'Yma o Hyd' cyn y gêm gan ei fod yn ffefryn i'r Wal Goch," dywedodd wrth WalesOnline. "Mae fy meibion i'n gefnogwyr carn - maen nhw wedi bod i bron pob un gem, wedi teithio ar gyfer yr Ewros ac yn y blaen, ac roedden nhw wedi dweud wrtha i fod y cefnogwyr yn canu'r gân yn aml.
"Dwi wedi canu mewn stadiwm sawl gwaith o blaen ac maen nhw'n gallu bod yn hunllefau ar adegau. Felly, nes i gytuno ar yr amod y byddwn ni'n cael meicroffon a monitorau i allu gwrando ar y gerddoriaeth a chreu perfformiad da. Mi oeddwn ni'n eithaf nerfus o flaen llaw - mae perfformiadau wastad yn gwbl wahanol i beth wyt ti'n disgwyl. Mae 'na wastad risg fod rhywbeth yn mynd i fynd yn anghywir ac roeddwn ni wedi paratoi ar gyfer 'na. Ond un peth doeddwn ni ddim wedi paratoi oedd y profiad ei hunain."
Gyda dagrau yn ei lygaid yn ystod y perfformiad, roedd yn amlwg i nifer fod hyn yn brofiad oedd yn golygu llawer i'r canwr. Mae llawer wedi canmol e'n "berfformiad rhyfeddol" ar gyfryngau cymdeithasol. Mewn ymateb, mae Dafydd Iwan wedi cyfaddef ei fod wedi bod yn brofiad "emosiynol".
Fe ychwanegodd: "Dwi'n mynd reit emosiynol gyda rhai caneuon, yn cynnwys yr un 'ma. Ond roedd yr awyrgylch a'r sŵn yn ei wneud yn unigryw iawn. Roedd Y Wal Goch fel un côr mawr yn canu 'da fi. Roedd e'n ffantastig i sylweddoli fy hunain yn y foment 'na beth oedd e'n golygu i'r cefnogwyr - mae'r gân nawr bron fel anthem iddyn nhw, a be' sy'n hyd yn oed mwy ffantastig yw'r ffaith fod Cymry Cymraeg a rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg yn canu'r gân.
"Am y 40 mlynedd ddiwethaf, dwi wedi bod yn canu'r gân yma'n olaf ar ddiwedd pob un gig. Ble bynnag fi wedi bod ers dydd Iau - pe bai hynny yn y capel neu ar y stryd, mae pobol wedi dod ata i siarad am y perfformiad. Nes i ddim sylwi faint o effaith byddai'r gân yn ei gael ar gymaint o bobol.
"Mae'r gân amdan oroesi - mae Cymru dal 'ma ac mae'r iaith Gymraeg yn dal yn fyw. Mae'r gân am ddathlu ein bod ni'n genedl fach. Mae tîm bêl-droed Cymru hefyd wedi cyfrannu at yr agweddau hynny hefyd. Mae gennym ni dîm da 'ma - a dydw i ddim jyst yn cyfeirio at Bale neu Ramsey, ond yr hogie ifanc hefyd. Mae 'na angerdd a balchder 'na, maen nhw'n gwybod pam ac i bwy maen nhw'n chwarae."