Cafodd Stephen Lawrence ei lofruddio ar 22 Ebrill 1993 mewn ymosodiad hiliol yn ne Llundain. Dim ond deunaw oed oedd Stephen ar y pryd. Roedd wedi bod yn disgwyl am fws gyda'i ffrind, Duwayne Brooks. Cafodd ei amgylchynu gan grŵp o bump neu chwe pherson ifanc gwyn, a gwnaeth o leiaf un ohonyn nhw ei drywanu â chyllell. Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach yn 2012, cafwyd dau ddyn yn euog o lofruddiaeth Stephen.
Ysgogodd y llofruddiaeth gyfres o newidiadau i ymchwiliadau'r heddlu, yn bennaf o ran cyswllt â theuluoedd. Daeth adroddiad Macpherson ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus yn 1999. Datgelodd fethiannau mawr yn ymchwiliad yr heddlu a'r ffordd y cafodd teulu Stephen a'i ffrind eu trin.
Roedd hiliaeth ac ymateb yr heddlu i droseddau â chymhelliant hiliol yn amlwg yn ymchwiliad Stephen Lawrence. Bu hefyd argymhellion newydd am y ffordd mae'r heddlu'n delio â theuluoedd pobl sydd wedi cael eu llofruddio.
Cafodd y geiriau “cyswllt teulu” eu defnyddio 136 o weithiau yn adroddiad Macpherson. A disgrifiwyd methiannau o ran cyswllt teulu fel “un o elfennau mwyaf trist a gresynus yr achos”. Cafodd rhieni Stephen, Doreen a Neville, eu trin yn nawddoglyd ac yn ansensitif, a chafodd gwybodaeth am yr ymchwiliad, yr oedd ganddyn nhw hawl iddi, mo’i rhoi iddyn nhw.
Yn naturiol, felly, bu llawer o argymhellion ynglŷn â chyswllt teulu gan yr ymchwiliad. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod swyddogion cyswllt teulu (SCT) ar gael ar lefel leol, ac eu bod yn gweithio ar achos penodol, a heb gael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau eraill ar yr un pryd. Argymhellodd hefyd fod hyfforddiant SCT yn cynnwys ymwybyddiaeth am hiliaeth ac amrywiaeth.
Dywedodd argymhelliad arall ei bod hi'n “ddyletswydd gadarn” ar yr heddlu i roi “pob gwybodaeth bosib i deuluoedd am y drosedd dan sylw a'r ymchwiliad”. Yng nghyd-destun yr oes, roedd hyn yn newid enfawr yn niwylliant ymchwilio’r heddlu. Roedd ditectifs wedi arfer penderfynu ar yr hyn roedd angen i deuluoedd ei wybod. Nawr roedd yn rhaid iddynt feddwl am anghenion a dewisiadau'r teulu.
Bu newidiadau bron yn syth yn sgil yr argymhellion. Symudodd yr Heddlu Metropolitan yn sydyn i gyfnod lle roedd cyrsiau hyfforddi’n cael eu cynnal yn wythnosol yng Ngholeg Heddlu Hendon.
Mae rôl yr SCT bellach yn rhan annatod o ymchwiliadau llofruddiaeth. Mae'n un o'r rolau cyntaf i'w llenwi pan fydd ymchwiliad yn dechrau. Mae iddi ddiben deublyg.
Yn gyntaf, mae SCT yn ymchwilwyr hyfforddedig sy'n casglu, ac yn helpu i asesu, unrhyw wybodaeth y gall perthnasau ei darparu i ymchwiliad. Yn ail, mae'r SCT yn bont rhwng y teulu a'r ymchwiliad. Maen nhw'n sicrhau bod y teulu'n deall y broses ac yn cael cynifer o fanylion ag y gellir eu rhannu am yr ymchwiliad.
Mae'r SCT yn helpu i baratoi'r teulu ar gyfer yr hyn sydd, yn anochel, yn brofiad trawmatig, ac yn eu cefnogi yn ystod adegau pwysig fel cynadleddau i'r wasg, apeliadau, a'r achos llys. Mae'r rôl yn gofyn am arbenigedd a sensitifrwydd mawr. Wedi'i chyflawni’n iawn, gall y rôl helpu i adnabod llofruddion a gwella ymddiriedaeth a ffydd yn yr heddlu.
Mae swyddogion cyswllt teulu hefyd wedi bod yn werthfawr mewn digwyddiadau eraill gartref a thramor. Er enghraifft, defnyddiwyd SCT yn dilyn damwain rheilffordd Ladbroke Grove ym mis Hydref 1999, ymosodiadau 11 Medi yn Efrog Newydd yn 2001, a tswnami Dydd San Steffan 2004 yng nghefnfor yr India.
Hyfforddiant
Fodd bynnag, mae mwy y gellid ac y dylid ei wneud i asesu'n barhaus a yw heddluoedd yn defnyddio SCT yn briodol ac yn y ffordd orau. Mae hyfforddi SCT yn rheolaidd yn bwysig er mwyn cynnal a gwella'r rôl, ac mae paru SCT yn ofalus â theuluoedd hefyd yn hanfodol. Mae hyn yn sicrhau bod amrywiaethau cymdeithasol, demograffig a diwylliannol yn cael eu cydnabod, sy'n galluogi i'r SCT ymgysylltu'n effeithiol â'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae'n bwysig cydnabod hefyd y gall bod yn swyddog cyswllt teulu fod yn brofiad dwys a dirdynnol. Felly, mae'n angenrheidiol bod yr heddlu’n gofalu am y rhai sy'n gwirfoddoli i ymgymryd â'r rôl, a’u bod yn cael eu cydnabod am y gwaith.
Dylai teuluoedd a chymunedau gael y cyfle i benderfynu os ydy'r heddlu'n defnyddio SCT yn y ffordd orau bosibl. Byddai cynnal cyfweliadau gyda theuluoedd ar ddiwedd ymchwiliad yn un ffordd o gyflawni hyn.
Yn drist iawn, dim ond ar ôl llofruddiaeth Stephen Lawrence y daeth y math hwn o blismona i gael ei gydnabod fel hawl ddiymwad i deuluoedd mewn profedigaeth. Mae'n ddyletswydd nawr ar yr heddlu i sicrhau bod cyswllt â theuluoedd yn parhau'n flaenoriaeth ac y bod y wasanaeth yn derbyn yr adnoddau priodol.
Hoffai Fiona Brookman ddiolch i Duncan McGarry MBE, cynghorydd arbennig, cyswllt teulu, am ddarparu deunydd a chyngor amhrisiadwy ar gyfer yr erthygl hon.
This article was originally published on The Conversation. Read the original article.